Cymraeg English

 

News

Simultaneous Translation

Translation on Paper

Welsh Simultaneous Translation Course

Menter Iaith


 

Simultaneous Translation

Telerau Cyfieithu

 

 

If you would like more information contact
Rhian Powell on 01685 877183
or e-mail rhianpowell@menteriaith.org

MENTRAU MORGANNWG GWENT

BRO OGWR         CAERDYDD         CAERFFILI      RHONDDA CYNON TAF

Offer Cyfieithu Is-Goch

Mae’r bocs glas yn cynnwys:-

20 o glustffonau, 1 meicroffon, 1 trosglwyddydd is-goch, 1 addasydd trydan, 1 estyniad cebl, 1 addasydd trydan i ail-drydanu’r offer.

Hefyd:-        Bag du yn cynnwys 1 stondin

Sut y mae’r offer yn gweithio

Sylwer: Awgrymir yn gryf eich bod yn profi’r offer cyn i chi ddechrau’r cyfieithu, yna, os oes problem, gellwch gysylltu â Menter Iaith ar 01685 877183 er mwyn ei datrys mewn da bryd.

  • Gosodwch y stondin drwy agor y tair coes a chodwch y golofn rhyw 2" i wneud lle i’r pen is-goch.
  • Gosodwch y pen is-goch ar ben y stondin drwy ddatod y sgriw a’i ail glymu gan sicrhau fod y pen is-goch yn wynebu’r gynulleidfa.
  • Cysylltwch y plwg 4 twll i waelod y pen is-goch a’r ochr arall i’r estyniad cebl. Wedyn cysylltwch yr estyniad cebl i’r soced drydan a’i droi ymlaen. Dylai goleuadau gwyrdd ymddangos ar y pen is-goch.
  • Gosodwch batri 9V i waelod y meicroffon (argymhellir eich bod yn defnyddio batri Duracell) gan sicrhau fod y "+" ar y batri yn cyfateb i’r "+" y tu mewn i’r clawr.

            Sylwer: Nid yw Mentrau Morgannwg Gwent yn darparu’r batri 9V ac ni       ddylid defnyddio batri sydd efallai yn y bocs yn barod.

  • Gwasgwch y botwm bach ar waelod y meicroffon a dylai’r golau coch ymddangos arno. Dylai’r côd 863.100 ymddangos ar sgrîn y meicroffon. Peidiwch â newid y côd hwn.
  • Gwthiwch swîts ‘on/off’ y meicroffon i lan er mwyn troi’r meicroffon ymlaen.

            Dylech wthio’r swîts i lawr er mwyn troi’r meicroffon i ffwrdd e.e. i besychu.

  • I droi’r meicroffon i ffwrdd gwasgwch y botwm bach ar y gwaelod nes bod y golau coch yn diflannu.

         Dylech wedyn dynnu’r batri o’r meicroffon.

  • Mae’r clustffonau yn gweithio trwy droi’r olwyn ar y gwaelod i rif sydd yn addas ar gyfer y gwrandäwr.

Dylai’r offer fod wedi’i siarsio yn barod erbyn i chi ei dderbyn ond, os nad oedd cyfle i wneud hyn, dylech siarsio’r offer yn y bocs gan ddefnyddio’r addasydd trydan amgaeëdig am 2 awr y bocs.