Cymraeg English

 

Newyddion

Cyfieithu ar y Pryd

Cyfieithu Ysgrifenedig

Cwrs Cyfieithu ar y Pryd

Mentrau Iaith

 

 


 

Newyddion

Cyfarfod Dwyieithog Interlink

Cynhaliodd Interlink gyflwyniad ar waith rhaglen Gwirfoddolwyr y Mileniwm yng Nghanolfan Dysgu Gydol Oes Garth Olwg ar 16eg Tachwedd 2006. Er mwyn cadw naws dwyieithog y ganolfan gofynnwyd i Rhian Powell, Cyfieithydd Cymunedol Mentrau Morgannwg Gwent ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd i’r rhyw 70 o bobl a oedd yn bresennol. 

Meddai Bev Hampson, Interlink a threfnydd y digwyddiad ‘the excellent translation service enabled contributions in Welsh in line with the ethos of a bilingual centre’.

 

 

Cyfieithu i Interlink

Interlink

CYFIEITHIADAU YN RHAD AC AM DDIM!*

Ydych chi’n aelod o fudiad gwirfoddol neu grŵp cymunedol?

Hoffech chi ddefnyddio gwasanaeth cyfieithu ond yn poeni am y gost?

Cysylltwch â Rhian Powell, Cyfieithydd Cymunedol Mentrau Morgannwg Gwent i weld sut y gellwch chi dderbyn hyd at 500 gair wedi’u cyfieithu yn rhad ac am ddim!

Meddai Rhian Powell ‘Nod y cynllun hwn yw hyrwyddo defnydd y Gymraeg gan grwpiau sydd naill ai heb ystyried cyfieithu eu deunydd i’r Gymraeg neu sydd eisiau cyfieithu eu deunydd ond wedi ystyried y gost yn rhwystr mawr rhag ei wneud’.

Am ragor o wybodaeth ar sut y gall y cynllun hwn fod o fudd i chi cysylltwch â Rhian Powell ar
01685 877183 neu drwy e-bostio rhianpowell@menteriaith.org

CARIAD @ GYFIEITHU

Ers mis Medi 2004, y mae Rhian Powell, Cyfieithydd Cymunedol Menter Iaith wedi dangos ei chariad at gyfieithu Cymraeg / Saesneg. Y mae ei gwasanaeth cyfieithu ar bapur a chyfieithu ar y pryd cyflym, cywir a dibynadwy yn boblogaidd dros ben gyda sefydliadau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r sector gwirfoddol.
Y mae ei chleientiaid yn cynnwys grwpiau cymunedol, sydd yn derbyn gwasanaeth cyfieithu naill ai yn ddi-dâl, fel rhan o’r cynnig i gyfieithu’r 500 gair cyntaf yn rhad ac am ddim, neu am bris gostyngol, yn ogystal â sefydliadau mwy sydd wedi dewis defnyddio’r iaith Gymraeg am y tro cyntaf. Hefyd, y mae cwmnïau preifat yn awr yn elwa o ganlyniad i gynnig gwasanaeth dwyieithog.
Ynghyd â’r rhain y mae cyrff sector preifat sydd yn gorfod cynnig gwasanaeth dwyieithog yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn cael ei gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn ddefnyddiol dros ben.
‘Y mae wedi bod yn wych i gael bod yn rhan o beth sydd, yn y bôn, yn chwyldro i rai o’r sefydliadau hyn. Y mae’r gwasanaeth cyfieithu ar y pryd wedi galluogi siaradwyr Cymraeg i gyfrannu i gyfarfodydd yn eu mamiaith – yr iaith y maent yn fwy cyffyrddus yn ei defnyddio - heb amharu ar lif y cyfarfod. Yr wyf yn falch bod fy nghariad at gyfieithu yn gallu helpu cymaint o sefydliadau’ meddai Rhian Powell.
Yng ngŵyl Parti Ponty 2006 lansiwyd cyfieithiad llyfr ‘Diwrnod Caled Bymbl’ gan awdur lleol Aeron Elias. Y mae’r llyfr yn rhan o gyfres a bydd Rhian yn dechrau gweithio ar gyfieithu’r llyfr nesaf yn y dyfodol agos. Os hoffech ragor o fanylion am y gwasanaeth cyfieithu neu am y llyfr cysylltwch â Rhian Powell ar 01685 877183 neu drwy e-bostio rhianpowell@menteriaith.org

Lansio Llyfr Newydd

Yng ngŵyl Parti Ponty 2006 lansiwyd cyfieithiad llyfr ‘Diwrnod Caled Bymbl’ gan awdur lleol Aeron Elias. Y mae’r llyfr yn rhan o gyfres a bydd Rhian yn dechrau gweithio ar gyfieithu’r llyfr nesaf yn y dyfodol agos.

 

Lansio Bymbl
Gleision Caerdydd yn Gweithredu’n Ddwyieithog

 

Ers dechrau’r tymor rygbi newydd y mae newid yng nghynnwys rhaglen Gleision Caerdydd. O ganlyniad i bartneriaeth rhwng y Gleision ac Uned Gyfieithu Mentrau Iaith Morgannwg Gwent y mae tudalen Gymraeg yn ymddangos ym mhob rhifyn.

Dywedodd Gwydion Griffiths, Swyddog Marchnata Gleision Caerdydd ‘Y mae Gleision Caerdydd wedi mwynhau partneriaeth waith wych â Menter Iaith ers i’r cynllun gael ei lansio ar ddechrau’r tymor 2006/07.

Y mae’r cyfieithiadau bob tro yn cael eu dychwelyd mewn da bryd ac o’r safon uchaf. Y mae’r gwasanaeth hwn yn galluogi ein cefnogwyr ledled y rhanbarth i ddarllen am y tîm naill ai drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg ac y mae wedi bod yn boblogaidd iawn gyda’r cefnogwyr – yn enwedig y rhai ifainc’. 

Ychwanegodd Rhian Powell, Cyfieithydd Cymunedol Mentrau Morgannwg Gwent ‘Y mae’n dda gweld bod sefydliadau sydd wedi arfer ar weithio’n uniaith Saesneg yn awr yn sylweddoli pa mor fuddiol ydyw i weithio’n ddwyieithog a gobeithiaf y bydd y bartneriaeth hon yn parhau i fynd o nerth i nerth a bydd rhagor o sefydliadau yn yr ardal yn dilyn esiampl Gleision Caerdydd’. Bydd lansiad swyddogol y dudalen Gymraeg gyda chwaraewyr y Gleision yn digwydd yn y dyfodol agos.       

Rhaglen y Gleision

 

Urddo’r Cyfieithydd Cymunedol i Orsedd Beirdd Ynys Prydain

Cafodd Rhian Powell, Cyfieithydd Cymunedol Mentrau Morgannwg Gwent ei hurddo i Wisg Las Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a’r Cylch 2006. Dywedodd Rhian ‘Yr oedd yn hynod o fraint imi gael fy nerbyn i’r Orsedd ac yr oedd yr achlysur hyd yn oed yn fwy arbennig am mai yn Abertawe y gynhaliwyd y seremoni wedi imi dreulio pedair blynedd yn astudio tuag at radd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru Abertawe’.

Enw gorsedd Rhian fydd ‘Ceri’r Waun Hir’ (Ceri yw ei henw canol ac y mae’n hanu o Hirwaun, Cwm Cynon).

 

Gorsedd 2006

Gorsedd 2006

Tudalen Cymraeg y Gleision