Cymraeg English

 

Newyddion

Cyfieithu ar y Pryd

Cyfieithu Ysgrifenedig

Cwrs Cyfieithu ar y Pryd

Mentrau Iaith

 

 


 

Cwrs Cyfieithu ar y Pryd

Cwrs Cyfieithu ar y Pryd

 

Cwrs Cyfieithu

HYFFORDDI CYFIEITHWYR

Bydd y cyfieithydd profiadol o Gaerdydd Elin Tudur yn arwain cwrs cyfieithu ar y pryd ym Mhrifysgol Morgannwg.  Y mae’r cwrs hynod o lwyddiannus yn gyfle i bobl nad ydynt yn gyfieithwyr o ran eu gwaith ddysgu sgil newydd a’i defnyddio at ddibenion cymunedol e.e. darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn ystod cyfarfodydd ysgol neu grŵp cymunedol.

Enghraifft o rywun sydd wedi cael budd o’r cwrs yw Rhian Powell, sydd yn awr yn gweithio fel Cyfieithydd Cymunedol Morgannwg Gwent, ond, ar y pryd yr oedd yn fyfyrwraig Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru Abertawe.
‘Mynychais i’r cwrs cyfieithu ar y pryd yn 2002 tra oeddwn yn astudio tuag at fy ngradd gan ddefnyddio’r cwrs fel cyfle i ehangu fy sgiliau ac fel rhywbeth ychwanegol i’w roi ar fy CV. Erbyn hyn yr wyf yn falch iawn imi benderfynu gwneud y cwrs oherwydd, yn y pendraw, y mae wedi arwain at swydd - er nad dyna oedd y bwriad ar y pryd’.

Y mae Rhian hefyd yn awyddus i bwysleisio mai cwrs ar gyfer unrhyw un sydd yn medru’r Gymraeg ydyw ‘Yr wyf wedi siarad â sawl person sydd â diddordeb mewn gwneud y cwrs ond yn meddwl nad ydynt yn gallu am nad ydynt yn gyfieithwyr. Y mae hyn yn gwbl anghywir oherwydd er y gall rhywun gyfieithu ar bapur y mae cyfieithu ar y pryd yn grefft gwbl wahanol’.

Bydd y cwrs yn cael ei gynnal bob nos Lun 7.00 tan 9.00 am 6 wythnos ym Mhrifysgol Morgannwg gan ddechrau ar 26ain Chwefror 2007. 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â
Rhian Powell ar 01685 877183

 neu drwy e-bostio rhianpowell@menteriaith.org